English  

Croeso i A.W.S.U.M (Mudiad Defnyddwyr Gwasanaethau Cymru Gyfan) Calon Cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaethau yng Nghymru

Mae Cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaethau yng Nghymru yn fudiad erbyn hyn, Mudiad Defnyddwyr Gwasanaethau Cymru Gyfan. Wrth wraidd y mudiad y mae aw-sum.org. Os ydych chi ond newydd ddechrau cael triniaeth neu eich bod yn gwella’n dda. Os ydych chi ar raglen lleihau niwed, yn cadw rhag defnyddio sylweddau neu os nad ydych chi wedi penderfynu eto – dyma’ch safle chi. Postiwch eich profiadau – rhai da, rhai drwg neu rhai gwaeth, gofynnwch eich cwestiynau, a gofynnwch am gymorth a chyngor gan ddefnyddwyr eraill. A, does dim rhaid i chi ddefnyddio’ch enw iawn os oes arnoch chi ofn y gall rhywbeth rydych chi’n ei ddweud effeithio ar y driniaeth a gewch.

Cofiwch fod hyn ar gael hefyd ar gyfer teulu, gofalwyr a ffrindiau cefnogol. Maent hwy hefyd yn dioddef yn sgil y caethiwed i sylweddau ac maent yn haeddu cael dweud eu dweud a mynegi eu barn am driniaethau. Bydd angen i chi gofrestru (gallwch wneud hyn yn ddienw) er mwyn i chi allu defnyddio nodweddion penodol, er enghraifft, postio cofnodion blog.

Cefnogwch eich safle - drwy annog pob defnyddiwr gwasanaeth, teulu a gofalwyr i gofrestru. Yn aw-sum.org byddwch ymysg pobl sydd yr un fath â chi, nid ydym yn beirniadu, gan fod pob un ohonom yr un fath.

Cofiwch, os dim ond trwy’r safle hwn yr ydych yn dymuno cyfranogi fel defnyddiwr gwasanaethau ar hyn o bryd, byddwch chi’n dal i fod yn aelod. Ni yw llais pob defnyddiwr gwasanaeth, eu teulu a’u gofalwyr yng Nghymru. Arwyddair defnyddiwr gwasanaeth yw 'Nothing about us without us'. Rhowch y geiriau i ni lefaru!

TOP

Ein prif nod

Ar lefel leol a rhanbarthol dylen ni, erbyn hyn, fod yn rhannu ein gwybodaeth a’n profiadau da, drwg neu waeth o ddefnyddio gwasanaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol gyda’r rheini sy’n eu darparu er mwyn creu gwasanaethau gwell. Dyma’n cyfle i wneud hynny ar lefel genedlaethol.

Mae gennym ddefnyddiwr gwasanaeth eisoes yn gweithredu fel ein cynrychiolydd yng Nghynulliad Cymru. Felly mae’r system yno’n barod i ni weithredu fel llais drwy aw-sum.org a chyflwyno consensws barn eang defnyddwyr gwasanaeth gerbron Cynulliad Cymru. Fel hyn, fe allwn ac fe wnawn sicrhau ansawdd a chydraddoldeb mewn gwasanaethau triniaeth ledled Cymru.

Ymunwch â ni, a gyda’n gilydd gallwn helpu i wella’r daith drwy driniaeth bob blwyddyn a sicrhau bod triniaethau’n gweithio i ni ac i’r rheini sy’n dod wedyn.


Cynhadledd Defnyddwyr Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Cymru Gyfan

> Archif 2010
> Archif 2009

 

TOP

Site hosted by Exchange Supplies